Mae protestwyr wedi rhwystro ffyrdd a thraffydd yn Catalwnia, wrth i’r gwrthdystio barhau tros arestio’r cyn-arweinydd, Carles Puigdemont.

Mae’r gwleidydd yn y ddalfa yn yr Almaen, gan aros i lys benderfynu a fydd yn cael ei estraddodi i Sbaen.

Mae gwasanaeth trafnidiaeth rhanbarthol Catalwnia wedi cadarnhau fo y brif draffordd trwy ddwyrain Sbaen wedi’i rhwystro’n llwyr gan brotestwyr yn Figueres, ger y ffin â Ffrainc. Felly hefyd y brif ffordd rhwng Tarragona a Valencia.

Mae protestwyr hefyd wedi bod yn amharu ar drafnidiaeth yn ystod oriau mân dydd Mawrth yng nghanol dinas Barcelona, prifddinas Catalwnia.