Mae’r Unol Daleithiau wedi datgan y byddan nhw’n diarddel 60 diplomydd o Rwsia o’r wlad, fel ymateb i ymosodiad wenwyn ar gyn-ysbïwr ym Mhrydain.

Ymhlith y diplomyddion fydd yn cael eu diarddel, mae 12 unigolyn sy’n cael eu hamau o fod yn ysbiwyr.

Bydd is-genhadaeth Rwsia hefyd yn cael ei chau yn Seattle, oherwydd pryderon ei bod wedi’i lleoli’n rhy agos at ganolfan filwrol.

Yn ôl yr Unol Daleithiau, ymateb yw’r camau i lefel “annerbyniol o uchel” o ysbiwyr Rwsiaidd yn y wlad, ac i’r ymosodiad yn Salisbury rhai wythnosau yn ôl.

Mae gan y diplomyddion wythnos i adael yr Unol Daleithiau.