Mae cyn-Brif Weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi, yn gorfod wynebu’r llys unwaith yn rhagor, a’r tro hwn yn dilyn honiadau ei fod wedi talu merched ifanc i ddweud celwydd mewn achos llys blaenorol.

Mae llys yn Milan yn cyhuddo’r gwleidydd 81 oed o lygredd, ac maen nhw hefyd yn cyhuddo pedair merch o dderbyn arian trwy lwgrwobrwyaeth.

Dyma’r ail achos llys sy’n deillio o’r achos yn 2011, lle cafodd y cyn-Brif Weinidog ei gyhuddo o dalu merch o Foroco, a oedd o dan oedran, i gael rhyw ag ef.

Fe gafodd ei ganfod yn ddieuog yn yr achos hwnnw.

Ond daw’r achos diweddaraf hwn, a fydd yn cael ei gynnal ar Fai 9, wrth i Silvio Berlusconi ddychwelyd i’r rheng flaen yng ngwleidyddiaeth yr Eidal.

Mae disgwyl i’w blaid, Forza Italia, chwarae rhan flaenllaw yn y trafodaethau ar gyfer ffurfio llywodraeth newydd yn yr Eidal, a hynny yn dilyn etholiadau ddechrau’r mis.