Mae gwledydd o amgylch y byd wedi bod yn diffodd eu goleuadau ar gyfer yr Awr Ddaear i dynnu sylw at newid hinsawdd.

Ers cael ei sefydlu yn 2007, mae’r Awr Ddaear wedi cyrraedd dros 180 o wledydd.

Yn ôl Gweinidog yr Amgylchedd yn India, Harsh Vardhan, mae’r ymgyrch yn “gyfle i fabwysiadu agwedd o symud y diwylliant defnydd, a newid ymddygiad tuag at gynaliadwyedd”.

Yn yr Iorddonen, cafodd 11,440 o ganhwyllau eu gosod ar ben bryn yn y brifddinas Amman, gan dorri record byd am y mosaïg mwyaf yn y byd. Serch hynny, doedd dim modd cynnau’r canhwyllau oherwydd y gwynt.

Ym Mharis, roedd Tŵr Eiffel yn y tywyllwch ac roedd nifer o adeiladau enwocaf Llundain, Sydney, Kuala Lumpur, Caeredin, Berlin a Mosgo hefyd wedi diffodd eu goleuadau.