Mae Llefarydd Senedd Catalwnia wedi gohirio’r bleidlais i ethol Jordi Turull yn Arlywydd nesaf Catalwnia.

Mae’r darpar-Arlywydd newydd yn un o’r rhai sydd dan glo am eu rhan yn refferendwm annibyniaeth y wlad.

Fe gyhoeddodd Roger Torrent heddiw na fyddai’r bleidlais yn cael ei chynnal am y tro.

Cafodd Jordi Turull ei garcharu gan farnwr y Goruchaf Lys yn Sbaen ddydd Gwener.

Cafodd y Senedd gyfle i’w ethol ddydd Iau ond fe wnaeth aelodau asgell chwith eitha’r Senedd atal eu pleidlais.