Mae plismon arwrol a gynigiodd ei hun yn gyfnewid am wystl mewn archfarchnad yn Ffrainc wedi marw o ganlyniad i’w anafiadau.

Fe gafodd y Cyrnol Arnaud Beltrame ei saethu yn ystod y digwyddiad yn Carcassonne, ar ôl i ddynes gael ei chipio.

Fe adawodd ei ffôn symudol yn y fan a’r lle er mwyn i blismyn y tu allan i’r adeilad glywed yr hyn oedd yn digwydd. Unwaith wnaeth yr heddlu glywed ergyd dryll, fe aethon nhw i mewn i’r adeilad a lladd y saethwr.

Dywedodd un o weinidogion Llywodraeth Ffrainc, Gerard Collomb fod y plismon “wedi marw dros ei wlad”.

Daesh sydd wedi hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiad.

Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r plismon.