Mae chwech o bobol wedi’u lladd, a dau arall wedi’u hanafu, mewn ffrwydrad mewn ffatri gemegion yn y Weriniaeth Tsiec.

Fe ddigwyddodd mewn gwaith mawr yn nhref Kralupy nad Vltavou, i’r gogledd o’r brifddinas, Prâg.

Mae llefarydd ar ran cwmni’r cwmni plastig, Unipetrol, yn dweud i’r ffrwydrad ddigwydd y tu mewn i un o danciau storio yn y burfa olew.

Dyw hi ddim yn glir eto beth achosodd y ffrwydrad, ond mae’r awdurdodau yn dweud nad oes peryg o fwy o ffrwydradau ar y safle.

 

Maen nhw hefyd yn gadarn iawn nad oes dim cemegion peryglus wedi gollwng o’r ffatri, ac nad oes bygythiad o lygredd.