Mae miloedd o ffoaduriaid Rohingya yn wynebu marwolaeth yn nhymor y monsŵn nesaf oni bai bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac asiantaethau rhyngwladol yn cymryd camau brys, meddai Aelodau Seneddol.

Mae pobol Rohingya wedi cael eu gorfodi i ffoi o Myanmar (Burma) yn wyneb gorthrwm milwrol, gyda channoedd o filoedd ohoynyn nhw’n mynd am loches i Bangladesh, y wlad drws nesaf

Ond mae Aelodau Seneddol ar y Pwyllgor Datblygu Rhyngwladol yn ruybuddio bod ffoaduriaid yn ardal Cox’s Bazar mewn perygl pan ddaw’r glaw trwm, y stormydd trofannol a’r tirlithriadau dros y misoedd nesaf.

“Dywedwyd wrthym fod risgiau difrifol iawn o farwolaeth, dinistr a chlefydau sy’n codi’n uniongyrchol o lifogydd yn ogystal â thirlithriadau dilynol a dianc rhag carthffosiaeth a mathau eraill o wastraff mewn amgylchedd dwr,” meddai’r Aelodau.

“Amcangyfrifir bod y risgiau hyn yn effeithio ar ryw 230,000 o ffoaduriaid Rohingya. Gyda thua 500 o Rohingya yn dal i gyrraedd bob wythnos i ardal Cox’s Bazar, mae nifer y bobol sydd dan fygythiad yn cynyddu’n gyson. “

Galwodd y grŵp trawsbleidiol ar y Lywodraeth San Steffan i “wella ei hymdrechion ar frys” gan gydweithio gyda gwledydd eraill ac asiantaethau rhyngwladol i fynd i’r afael â’r argyfwng.