Mae bachgen naw oed wedi saethu ac anafu ei chwaer 13 oed ar ôl iddyn nhw fod yn ffraeo dros declyn rheoli gêm fideo, yn ôl yr awdurdodau yn ardal Mississippi yn yr Unol Daleithiau.

Dywed yr awdurdodau bod y ferch wedi gwrthod rhoi’r teclyn i’w brawd pan ofynnodd amdano ddydd Sadwrn (Mawrth 17).

Yn dilyn hyn, fe saethodd y bachgen ei chwaer yng nghefn ei phen, gyda’r fwled yn cael mynediad i’w hymennydd.

Fe gafodd ei chludo i’r ysbyty plant yn Memphis, Tennessee ar unwaith.

Dyw’r awdurdodau ddim yn gwybod ar hyn o bryd sut cafodd y bachgen afael ar y gwn, ac maen nhw’n dweud bod ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.