Fe fydd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin yn dechrau ar dymor newydd wrth y llyw ar ôl yr etholiad yn y wlad heddiw.

Mae e’n sicr o gadw ei swydd am chwe blynedd arall ar ôl i Alexei Navalny, yr unig fygythiad go iawn i’w rym, gael ei wahardd.

Hwn fydd ei bedwerydd tymor wrth y llyw.

Mae disgwyl nifer isel o bleidleiswyr gan fod y canlyniad yn anochel.