Mae hunanfomiwr mewn car wedi targedu cwmni diogelwch o wledydd Prydain ym mhrifddinas Afghanistan, gan ladd dau o bobol gyffredin ac anafu tri arall.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn Kabul fore Sadwrn (Mawrth 17), ac mae’r Taliban eisoes wedi hawlio cyfrifoldeb.

 

Dydi’r awdurdodau yn Afghanistan ddim wedi rhyddhau mwy o wybodaeth ar hyn o bryd.

Mae’r Taliban wedi hawlio cyfrifoldeb trwy gyfrwng neges destun, gan ddweud mai’r targed oedd cerbydau tramor, a bod yr ymosodiad wedi bod yn “llwyddiant”.