Mae gwylwyr y glannau yn Groeg wedi cadarnhau fod cyrff 14 o bobol wedi’u codi o’r môr, wedi i gwch yn cludo ffoaduriaid suddo ar arfordir y wlad.

Mae ymgyrch fawr ar droed i geisio dod o hyd i bedwar o bobol eraill sydd ar goll.

Fe ddaethpwyd o hyd i gyrff un dyn, un fenyw a phedwar o blant oddi ar arfordir ynys Agathonisi, i’r de o ynys Samos. Yna, fe gafwyd wyth arall ger Agathonisi, ond dydyn nhw ddim yn gallu cadarnhau p’un ai dynion neu ferched oedd y rheiny ar hyn o bryd.

Ac wedyn, fe ddaeth tri ffoadur arall – dwy ddynes ac un dyn – i’r lan yn ddiogel er mwyn tynnu sylw’r awdurdodau at y digwyddiad. Yn ôl y tri hyn, roedden nhw’n teithio mewn cwch bren, gyda chyfanswm o 21 o bobol ar ei fwrdd.