Mae’r awdurdodau yn Awstralia wedi gwrthod cais i gyhoeddi llythyrau cyfrinachol Brenhines Lloegr, a fyddai yn dangos ei bod hi’n gwybod am fwriad i ddiswyddo Prif Weinidog y wlad yn 1975.

Aeth yr hanesydd Jenny Hocking o Brifysgol Monash i lys barn i  bwyso am ryddhau’r llythyrau sy’n cael eu cadw yn Archif Genedlaethol Awstralia.

Ond mae’r llys wedi barnu bod y llythyrau rhwng y Frenhines, sy’n bennaeth cyfansoddiadol Awstralia, a’r llywodraethwr cyffredinol – ‘governer-general’  – Syr John Kerr yn ohebiaeth “bersonol” ac mae yn bosib na fydd byth yn dod yn gyhoeddus.

Byddai’r llythyrau yn dangos bod y Frenhines yn gwybod am gynllun Syr John Kerr yn 1975 i ddiswyddo llywodraeth  Gough Whitlam, y Prif Weinidog ar y pryd.

Dyma’r unig dro yn hanes Awstralia i lywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd gael ei ddiddymu ar sail awdurdod y Teulu Brenhinol Prydeinig.