Mae senedd yr Almaen wedi ethol Angela Merkel yn Ganghellor am bedwerydd tymor – gan roi diwedd ar bron i hanner blwyddyn o ansicrwydd gwleidyddol.

Fe bleidleisiodd aelodau heddiw o 364-315 o blaid ei hail-ethol. Fe ataliodd naw aelod eu pleidleisiau.

Mae gan glymblaid Angela Merkel gyda’r Undeb Cymdeithasol Cristnogol a’r Democratiaid Cymdeithasol 399 o seddi rhyngddynt.

Yr un tair plaid a fu’n rhedeg y wlad am y pedair blynedd diwethaf, ond roedd dod i gytundeb ynglyn â natur y glymblaid y tro hwn wedi bod yn waith caled.

Fe fydd Angela Merkel yn arwain cabinet sy’n awyddus i weld yr Almaen yn cael ei hadfywio. Mae yna wynebau newydd mewn swyddi allweddol yn ymwneud â chyllid, materion tramor, yr economi a materion cartref.