Mae 125 o bobol wedi marw, a 35,000 wedi gorfod ffoi o’u cartrefi yn dilyn daeargryn ym Mhapua New Guinea.

Tarodd y daeargryn gradd 7.5 ar Chwefror 26, a bellach mae nifer y meirw dipyn uwch na’r 55 a gafodd ei gofnodi’r wythnos ddiwethaf.

Gan fod yr ardal sydd wedi’i tharo mor anghysbell, mae awdurdodau wedi cael trafferth wrth asesu lefel y difrod. Pryder heddlu yw gall nifer y meirw gynyddu.

Yn ôl awdurdodau bu farw 80 o bobol yn nhalaith Hela, a bu farw 45 yn nhalaith Southern Highlands.

Mae ôl-gryniadau cryf yn parhau i daro’r taleithiau ac mae llawer o ysgolion a ffyrdd o hyd ar gau.