Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Rex Tillerson, wedi colli ei swydd wrth i’r Arlywydd, Donald Trump, ddweud bod y ddau’n “anghytuno ar bethau”.

Wrth gyfeirio at yr “anghytuno” hwn, cyfeiriodd Donald Trump at y gwahaniaethu barn rhyngddo â’i ysgrifennydd gwladol ynghylch y cytundeb niwclear rhwng yr Unol Daleithiau ac Iran.

Fe gafodd y cytundeb ei wneud cyn i Donald Trump gyrraedd y Tŷ Gwyn, lle gwnaeth Iran gytuno i arafu ei chynllun ar gyfer arfau niwclear pe bai’r Unol Daleithiau yn ysgafnhau’r sancsiynau economaidd yn ei herbyn.

Ond mae’r Arlywydd presennol wedi cyfeirio’n aml at y cytundeb hwn fel “dêl gwael”, gan fygwth dod a’r cytundeb i ben.

Ac ar ôl gwneud yr un bygythiad mewn cyfarfod heddiw (Mawrth 13), fe ddywedodd Donald Trump fod ei Ysgrifennydd Gwladol yn “teimlo ychydig yn wahanol, felly dy’n ni ddim yn meddwl yr un peth.”

Ychwanegodd hefyd ei fod wedi gwneud y penderfyniad i ddiswyddo Rex Tillerson “ar ben ei hun”, ac y bydd y cyn-Ysgrifennydd “tipyn yn hapusach o hyn ymlaen”.

Pennaeth y CIA i’w olynu

Mae Mike Pompeo, Prif Gyfarwyddwr y CIA, wedi cael ei benodi’n Ysgrifennydd Gwladol newydd, gyda Donald Trump yn dweud y byddai’n gwneud “jobyn ffantastig”.

Mae dirprwy gyfarwyddwr y CIA, Gina Haspel, wedi cael ei henwebu i’w olynu yn ei hen swydd, ac os bydd hi’n llwyddiannus, hi fydd y ddynes gyntaf i fod yn bennaeth ar y CIA.

Yn ôl un o swyddogion yr adran wladol, doedd Rex Tillerson ddim yn gwybod y rhesymau y tu ôl i’w ddiswyddiad.