Mae bws yn cario teithwyr wedi troi’n belen o dân, wedi iddo fod mewn gwrthdrawiad â lori ar un o ffyrdd Twrci.
Mae beth bynnag 13 o bobol wedi cael eu lladd, yn ol adroddiadau.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar un o briffyrdd talaith Corum yng nghanolbarth Twrci.
Fe aeth y bws ar ei ben i mewn i’r lori, a oedd ar y pryd wedi tynnu i fewn ar y llain galed.
Mae nifer o bobol hefyd wedi’u hanafu yn y digwyddiad, ac wedi cael eu cludo i’r ysbyty.