Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi dweud ei fod yn cadw llygad ar “achosion llys”, cyn cymryd camau i godi’r oedran ar gyfer prynu rhai mathau o ddrylliau.

Mae’n dadlau nad oes “llawer o gefnogaeth wleidyddol” i’r mater.

Daw’r sylwadau hyn gan yr Arlywydd ar y wefan gymdeithasol, Twitter, ar ôl i’r Tŷ Gwyn gyflwyno cynllun dros y penwythnos sy’n mynd i’r afael ag ymosodiadau arfog mewn ysgolion.

Mae’n dilyn saethu mewn ysgol yn Parkland, Florida pan gafodd 17 o bobol eu lladd.

Er hyn, dyw’r cynllun ddim yn cynnwys y cam o godi’r oedran cyfreithiol ar gyfer prynu gynnau o 18 oed i 21 – cam yr oedd yr Arlywydd yn ei ffafrio fis diwethaf.

Yn hytrach, fe fydd comisiwn ffederal ar ddiogelwch mewn ysgolion, yn ystyried y mater.

Ar Twitter heddiw (Mawrth 12), fe ddywedodd Donald Trump fod yr ymdrech y mae’r Tŷ Gwyn wedi’i gwneud dros y mis diwethaf wedi bod yn “welliant cryf iawn”.

Ond ar y mater o osod cyfyngiadau oedran wedyn, dywed: “Dw i’n mynd i wylio achosion llys a dyfarniadau cyn gweithredu.

“Mae pethau’n symud yn gyflym ynglŷn â hyn, ond does dim llawer o gefnogaeth wleidyddol iddo…”