Mae cyn-Aelod Seneddol o Gatalwnia wedi symud i’r Alban i ddarlithio ym Mhrifysgol St. Andrew’s.

Roedd Clara Ponsati wedi ffoi i Wlad Belg yn dilyn achos llys yn sgil y refferendwm annibyniaeth fis Hydref sy’n cael ei ystyried yn anghyfreithlon gan Sbaen.

Roedd hi’n gyfrifol am addysg yn Llywodraeth Catalwnia cyn i’r llywodraeth gyfan gael ei diddymu.

Mae hi’n ymddangos ar dudalennau Ysgol Economeg a Chyllid gwefan y brifysgol.

Mae hi a sawl gwleidydd arall, gan gynnwys y cyn-Arlywydd Carles Puigdemont, yn wynebu cael eu harestio pe baen nhw’n dychwelyd i Gatalwnia.