Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron wedi beirniadu Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump am adael cytundeb hinsawdd Paris.

Wnaeth e ddim ei enwi yn ystod cyfarfod yn Delhi Newydd, ond fe ddywedodd fod “rhai gwledydd wedi penderfynu gadael y llawr a gadael cytundeb Paris”. Fe ddaeth ei sylwadau wrth iddo ganmol ymdrechion criw o fenywod y “solar mamas”, sy’n beirianwyr solar benywaidd.

Daeth cadarnhad fis Mehefin y llynedd fod yr Unol Daleithiau’n cefnu ar y cytundeb sy’n lleihau tymheredd y byd drwy ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Dywedodd Emmanuel Macron: “Oherwydd eu bod nhw (solar mamas) wedi penderfynu ei fod yn dda iddyn nhw, eu plant a’u hwyrion, fe benderfynon nhw barhau i weithredu a dyna pam ein bod ni yma, er mwyn gweithredu’n gadarn iawn.”