Dywed arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, nad yw’r ymyrraeth honedig gan Rwsiaid yn etholiad arlywyddol America yn poeni dim arno, gan nad oedd a wnelo hyn â’i lywodraeth.

Mewn cyfweliad ar rwydwaith newyddion NBC yn America, gofynnwyd iddo a oedd yn cymeradwyo’r ymyrraeth gan 13 o ddinasyddion Rwsiaidd a thri chwmni Rwsiaidd sy’n cael eu henwi mewn cyhuddiad gan Lywodraeth America.

“Dw i’n poeni dim o gwbl, oherwydd dydyn nhw ddim yn cynrychioli’r llywodraeth,” meddai.

“Efallai nad ydyn nhw hyd yn oed yn Rwsiaid, ond yn Wcraniaid, Tatars neu Iddewon gyda dinasyddiaeth Rwsiaidd – rhywbeth y dylid ei wirio.

“Efallai fod ganddyn nhw ddinasyddiaeth ddeuol neu gerdyn gwyrdd; efallai fod America wedi talu iddyn nhw am hyn. Sut allwch chi wybod hynny? Wn innau ddim chwaith.”