Mae Llywodraeth Prydain wedi cael ei beirniadu’n hallt am gytundeb sy’n debygol o arwain at werthu 48 o awyrennau rhyfel i Saudi Arabia.

O dan femorandwm a gytunwyd rhwng llywodraethau’r ddwy wlad ddoe, mae’r ffordd yn glir i BAE Systems, gwneuthurwr arfau mwyaf Prydain, gwblhau archeb gwerth o biliynau o bunnau.

Yn ôl y mudiad Campaign Against Arms Trade, mae llywodraeth Prydain eisoes wedi caniatáu gwerthu gwerth dros £4.6 biliwn i Saudi Arabia ers iddyn nhw gychwyn cyrchoedd bomio parhaus ar y wlad gyfagos, Yemen, yn 2015.

“Os bydd y cytundeb yma’n mynd yn ei flaen, mae’n sicr o gael ei ddathlu ym mhalasau Riyadh a’r cwmnïau arfau fydd yn elwa ohono,” meddai Andrew Smith ar ran y mudiad. “Ond fe fydd yn golygu mwy o fyth o ddinistr i bobl Yemen.

“Ers degawdau bellach, mae llywodraethau Prydain wedi mwynhau perthynas wenwynig a dinistriol â’r gyfundrefn Saudi.

“Wrth estyn y carped coch i’r tywysog, mae Theresa May wedi dangos pa mor isel y bydd yn sudd i gynnal y berthynas honno.”

Fe ddaeth y cyhoeddiad ar ddiwedd ymweliad arweinydd Saudi Arabia, y tywysog Mohammed bin Salman, â Phrydain.