Mae tân enfawr a ddechreuodd mewn ffatri gemegol yng ngorllewin India, cyn lledaenu i chwe ffatri arall, wedi lladd o leiaf dri o weithwyr ac anafu 13, yn ôl yr heddlu yno.

Dywedodd y swyddog heddlu, Manjunath Shinge, fod cyrff y meirw wedi eu darganfod yn gynnar y bore yma, oriau ar ôl i’r tân ddechrau yn y ffatri yn ardal Palghar yn nhalaith Maharashtra.