Mae Donald Trump wedi penderfynu y bydd yn cwrdd â Kim Jong Un “erbyn mis Mai”,  yn ôl cyfarwyddwr diogelwch cenedlaethol De Corea.

Dywedodd y cyfarwyddwr diogelwch bod Kim Jong Un wedi dweud wrth bobl De Corea ei fod “wedi ymrwymo i ddad-gomisiynu arfau niwclear” ac wedi addo y bydd “Gogledd Corea yn ymatal rhag unrhyw brofion niwclear neu daflegrau pellach”.

Y cyfarfod fyddai’r cyntaf o’i fath rhwng arweinydd Gogledd Corea ac Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Ar Twitter, dywedodd Donald Trump fod “cynnydd mawr” yn cael ei wneud, er y bydd sancsiynau’n parhau yn eu lle hyd nes y daw cytundeb.