China: cyhuddo Trump o niweidio’r system fasnachu fyd-eang

 

Baner Tsieina

Llun: commons-wikimedia-CC0

Mae China wedi cyhuddo Donald Trump o niweidio’r system fasnachu fyd-eang trwy gynyddu tariffau dur ac alwminiwm, tra bod Japan a De Corea wedi mynegi pryder am niwed economaidd posibl.

Dywedodd Gweinyddiaeth Fasnach China ei fod “yn gwrthwynebu’n gadarn” penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau ond ni roddodd unrhyw awgrym a allai Beijing gymryd mantais ar fygythiadau i dalu’r pwyth yn ôl.

Roedd masnachwyr hefyd yn fodlon gan y newyddion y bydd Donald Trump yn cyfarfod â Kim Jong-un, arweinydd Gogledd Corea.

 

Apeliodd gweinidog masnach De Corea, wrth siarad mewn cyfarfod brys, i lywodraethau eraill i atal “rhyfel fasnachol”.

 

 

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Tywysogion Cymru – pa rai sy’n werth eu cofio?