Mae gangiau Bwdhaidd yn parhau i ymosod ar ardloedd Mwslimaidd yn Sri Lanca, gan ddinistrio siopau a thai bwyta.

Mae hyn yn digwydd ers bod cyrffiw wedi’i bennu, ac er bod milwyr ar y strydoedd yn ceisio cadw heddwch.

Mae adroddiadau yn nhref fechan Kandy am giang o tua 50 o bobol a aeth i mewn i fwyty nos Fercher a dinistrio popeth yn y lle.

Mae strydoedd y rhan fwyaf o drefi’r ynys yn wag heddiw.