Fe fydd y llofrudd, Charles Manson, yn cael ei gladdu yn fuan, ar ôl i swyddog yn yr Unol Daleithiau ddweud bod yn rhaid penderfynu yn reit handi pwy sydd â’r hawl ar ei gorff.

Mae yna anghydfod wedi bod ers marw’r carcharor 83 mlwydd oed – a oedd yn gyfrifol am ladd yr actores feichiog, Sharon Tate, yn 1969 ynghyd â wyth o bobol eraill – ar Dachwedd 19 y llynedd.

Roedd mewn ysbyty yn Bakersfield, Califfornia, ar y diwedd.

Mae un dyn yn honni mai Charles Manson oedd ei dad, ac un arall yn dweud ei fod ef yn ŵyr i’r llofrudd.

Mae yna drydydd yn ceisio hawlio’r corff hefyd – sef ffrind oedd wedi bod yn llythyru ag ef yn y carchar.