Un o brif ymgynghorwyr economaidd Donald Trump wedi mynd

 
Arlywydd yr Unol Daletihiau yn areithio ac yn pwyntio'i fys

Donald Trump

Llun: CC 2.0 trwy Commons Wikimedia

Mae un o brif ymgynghorwyr economaidd yr Unol Daleithiau wedi ymddiswyddo o’r llywodraeth ar ôl anghytundeb â’r Arlywydd Donald Trump tros bolisi masnach y wlad.

Gary Cohn, cyfarwyddwr y Cyngor Economaidd Cenedlaethol, fu un o brif wrthwynebwyr y cynlluniau i godi tollau ar fewnforion dur ac alwminiwm, ac roedd wedi bod yn ceisio dwyn perswâd ar yr Arlywydd i wneud tro pedol.

Ond fe wrthododd Donald Trump ag ildio, gan ategu ei gynlluniau unwaith eto ddydd Mawrth. Bellach, mae pryderon y gallai rhagor o staff ymddiswyddo.

Serch hynny, mae Donald Trump yn gwrthod yr awgrym fod cyfnod cythryblus o’i flaen. “Mae pawb eisiau gweithio yn y Tŷ Gwyn,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg ar y cyd â Phrif Weinidog Sweden, Stefan Lofven.

Dywedodd Gary Cohn mewn datganiad y bu’n “anrhydedd” cael gwasanaethu ei wlad, ac mae Donald Trump wedi talu teyrnged iddo er gwaetha’r anghytundeb.

Pwy yw Gary Cohn?

Cyn-swyddog Goldman Sachs yw Gary Cohn, a ymunodd â gweinyddiaeth Donald Trump ar ôl derbyn 285 miliwn o ddoleri wrth adael y cwmni.

Roedd yn allweddol wrth drawsnewid system drethi’r Unol Daleithiau.

Bu bron iddo adael ei swydd yr haf diwethaf yn dilyn sylwadau’r Arlywydd am drais hiliol yn nhalaith Virginia. Roedd yr Iddew wedi llunio llythyr o ymddiswyddiad, ond wnaeth e ddim rhoi’r llythyr i’r Arlywydd.

Doedd e ddim mewn cynhadledd i’r wasg ddoe.

Daw ei ymddiswyddiad ar ôl i nifer o aelodau staff eraill adael y Tŷ Gwyn dros yr wythnosau diwethaf. Ymddiswyddodd y cyfarwyddwr cyfathrebu Hope Hicks yr wythnos ddiwethaf.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

1988-2018 Cylchgrawn Golwg yn 30 oed