Mae 32 o bobol wedi marw yn Syria, wedi i awyren Rwsiaidd blymio o’r awyr wrth geisio glanio.

Gwall technegol wnaeth achosi hyn yn ôl byddin Rwsia, ac mae’n debyg y bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal.

Ar hyn o bryd mae gan Rwsia bresenoldeb yn safle milwrol Hemeimeem, sydd ar arfordir Mor y Canoldir, ac sydd wedi ei chynnig gan Syria gan fod y ddwy wlad ar delerau da.

Bu’r safle hwn yn darged ymosodiad ym mis Rhagfyr, a dyma’r ail achos o awyren Rwsiaidd yn plymio o’r awyr eleni.