Mae Gogledd a De Corea wedi cytuno i gynnal uwchgynhadledd o drafodaethau fis nesaf, yn ôl llefarydd ran llywodraeth y De.

Maen nhw hefyd wedi cadarnhau bod y ddwy wlad wedi cytuno i ffurfio llinell ffôn brys rhwng arweinwyr y Gogledd a’r De.

Mae arweinydd y gynrychiolaeth o swyddogion y De sydd wedi bod yn Pyongyang dros y ddau ddiwrnod diwethaf, hefyd wedi cyhoeddi bod y Gogledd wedi dweud na fydd rhaid iddyn nhw gadw eu harfau niwclear pe bai’r bygythiadau milwrol yn ei herbyn yn cael eu datrys.

Daw’r sylwadau hyn wrth i’r gynrychiolaeth ddychwelyd i’r De, ar ôl iddyn nhw fod yn cyfarfod ag arweinydd y Gogledd, Kim Jong Un.

Dyma’r tro cyntaf i swyddogion o’r De gyfarfod â’r arweinydd ifanc ers iddo gymryd yr awenau yn 2011 yn sgil marwolaeth ei dad.

Yn ôl y cyfryngau yn y Gogledd, sy’n cael eu rheoli gan y wladwriaeth, roedd Kim Jong Un wedi cael “sgwrs ddidwyll” gyda’r swyddogion.

Mae’n debyg ei fod wedi dweud mewn cinio neithiwr hefyd ei fod yn awyddus i “ysgrifennu hanes newydd o uno” ar ynys Corea.