Mae mam a’i phlentyn wedi cael eu lladd yng ngogledd Calaffornia ar ôl i dwmpath o eira oddi ar do adeilad syrthio am eu pennau.

Yn ôl heddlu’r ardal, roedd Olga Perkovic a’i mab, Aaron Goodstein, yn dychwelyd adref ar ôl bod yn sgïo  ym mynyddoedd Sierra Nevada ger y ffin â Nevada, pan wnaeth dwmpath mawr o eira syrthio oddi ar do’r lle roedden nhw’n aros ynddo, gan eu claddu mewn tua tair troedfedd o eira.

Roedd mam Olga Perkovis wedi cysylltu â’r heddlu yn hwyr y prynhawn ddydd Sul i ddweud bod ei merch a’i hŵyr ar goll.

Ac oriau yn ddiweddarach, fe ddaeth achubwyr o hyd i’r pâr wedi’u claddu yn yr eira, a hynny dim ond troedfedd o ddrws ffrynt yr adeilad lle roedden nhw’n aros ynddi.

“Damwain anarferol”

Yn ôl dirprwy sheriff Alpine County, dyma “ddamwain anarferol”, ac ychwanegodd fod cynnydd mewn tymheredd yn aml yn achosi eiria i lithro oddi ar doau adeiladau, gan anafu pobol yn achlysurol.

Er hyn, doedd e na’r sheriff, sydd wedi bod yn y llu ers 30 mlynedd, ddim yn cofio adeg lle roedd eira sy’n llithro oddi ar do wedi achosi marwolaeth unrhyw un.