Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio na fydd Canada a Mecsico yn cael eu heithrio o dariffau newydd ar fewnforion dur ac alwminiwm, oni bai bod bargen masnach rydd “newydd a theg” yn cael ei harwyddo.

Yn ôl llywodraeth Donald Trump mae’r t tollau ar fewnforion yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn diwydiannau dur ac alwminiwm America.

Ond bellach mae’n ymddangos ei fod yn defnyddio’r bygythiad o godi tollau fel arf i ddylanwadu ar drafodaethau am Gytundeb Masnach Rydd Gogledd America.

Bydd rownd ddiweddaraf y trafodaethau tros y cytundeb yn dod i ben yn Ninas Mecsico’r wythnos hon.

“Ni fydd unrhyw wlad yn cael eu heithrio, rydym yn gadarn tros hynny,” meddai ymgynghorydd masnach y Tŷ Gwyn, Peter Navarro, ddydd Llun.

Ymateb i’r cynlluniau

Mae plaid Donald Trump wedi beirniadu’r penderfyniad i beidio ag eithrio gwledydd o’r cynllun tariffiau.

Gyda’r Arlywydd yn bygwth targedu Ewrop os fyddan nhw’n ymateb i’w dariffiau a brwydro yn ôl, mae un Seneddwr Gweriniaethol wedi rhybuddio mai “Tsieina fydd yn ennill [os gwnawn nhw hyn]”.