Mae Angela Merkel yn paratoi am bedwerydd tymor yn Ganghellor yr Almaen ar ôl i Blaid y Democratiaid Sosialaidd gytuno i ffurfio clymblaid gyda’r bloc ceidwadol.

Mae’r penderfyniad yn rhoi terfyn ar gyfnod o chwe mis o ansicrwydd – y cyfnod hwyaf i’r wlad fod heb lywodraeth ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Roedd y Democratiaid Sosialaidd yn ansicr a ddylen nhw ymestyn y drefn bresennol ar ôl colli’n drwm yn etholiadau’r wlad ym mis Medi.

Ond roedd dau draen o’r aelodau o blaid y glymblaid yn y pen draw.

Mae disgwyl i’r Democratiaid Sosialaidd gyflwyno chwe enw i arwain adrannau’r llywodraeth, ac mae disgwyl i’r llywodraeth gyfarfod yr wythnos nesaf i ethol Angela Merkel yn ffurfiol.