Mae dyfalu heddiw a fydd yr Eidal yn symud ymhellach i’r dde yn wleidyddol wrth i etholiadau’r wlad gael eu cynnal.

Fe fu cryn dipyn o wrthdaro yn ystod yr ymgyrchu tros rethreg neo-ffasgaidd, yn ogystal â chryn dipyn o drais a arweiniodd at saethu chwech o Affricaniaid yn farw fis diwethaf.

Clymblaid canol-de oedd ar y blaen yn y polau am gyfnodau hir, ond mae darogan y gallai’r etholiad arwain at senedd grog. Fe allai hynny arwain at wythnosau o drafod er mwyn adennill ffydd y bobol yn eu llywodraeth.

Mae mwy na 46 miliwn o bobol yn gymwys i bleidleisio, a’r gorsafoedd pleidleisio ar agor tan 11 o’r gloch heno, a’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ddydd Llun. Ond roedd oedi yn Palermo ar ôl i orsafoedd pleidleisio dderbyn y papurau pleidleisio anghywir cyn i rai newydd gael eu hargraffu.

Mae rhai yn cwyno yn Rhufain am y drefn newydd sy’n golygu bod rhaid i bleidleiswyr fynd trwy wiriadau twyll wrth fwrw eu pleidlais.

Fe allai’r etholiad arwain at blaid Silvio Berlusconi, Forza Italia yn dychwelyd i rym fel rhan o glymblaid. Ond does gan y cyn- Arlywydd 81 oed mo’r hawl i sefyll yn sgil ei gollfarn am dwyll. Pe bai’r blaid yn ennill, Llywydd Senedd Ewrop, Antonio Tajani fyddai wrth y llyw.