Mae cyn-lywydd banc y Vatican a’i gyfreithiwr yn cael eu hamau o dwyll difrifol wrth gael eu beio am golledion o fwy na €50 miliwn i’r banc.

Mae Angelo Caloia a’i gyfreithiwr Gabriele Liuzzo wedi cael eu cyhuddo o ddwyn ac o wyngalchu arian rhwng 2001 a 2008, pryd y gwnaeth y banc yn Rhufain waredu cyfran helaeth o’u hasedau eiddo.

Roedd y twyll honedig yn ymwneud â’r ddau yn gwerthu eiddo banc y Vatican am lai na’i werth i gwmnïau tramor, a oedd yn ailwerthu’r eiddo am bris y farchnad.

Yr amheuaeth yw eu bod nhw wedyn yn pocedu’r gwahaniaeth, er bod y ddau’n gwadu’r cyhuddiadau.

Fe fydd achos llys yn eu herbyn yn cychwyn ar 15 Mawrth.

Dyma’r camau ddiweddaraf gan y Banc i geisio adfer rhai o’i golledion ar ôl colli llawer o arian yn sgil troseddau neu benderfyniadau gwael gan gyn-reolwyr.

Y mis diwethaf, cafodd tribiwnlys sifil y Vatican ddau gyn-bennaeth arall, Paolo Cipriani a Massimo Tulli, yn gyfrifol am gam-reoli buddsoddiadau gwael a’u gorfodi i ad-dalu’r banc.

Mae’r Banc yn mynd trwy broses o ddiwygiadau fel rhan o broses a gafodd ei lansio gan y Pab Benedict XVI i’w waredu o’i enw drwg fel hafan di-dreth y tu allan i gyfraith yr Eidal.