Mae erlynwyr yn Ffrainc wedi dwyn cyhuddiad yn erbyn arweinydd y Ffrynt Cenedlaethol, Marine Le Pen, am aildrydar lluniau honedig anweddus o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Mae wedi’i chyhuddo o “ddosbarthu lluniau treisgar”, yn ôl swyddfa’r erlynydd ym Maris, a phe bai’r achos yn mynd i’r llys, fe all Marine Le Pen wynebu cyfnod o dair blynedd mewn carchar a dirywion gwerth 75,000 euro.

Ym mis Rhagfyr 2015, roedd cyn-ymgeisydd ar gyfer yr Arlywyddiaeth yn Ffrainc wedi aildrydar ar y wefan gymdeithasol, Twitter, luniau a oedd yn dangos cyfres o ddienyddiadau gan IS, gan gynnwys un y newyddiadurwr o’r Unol Daleithiau, James Foley.

Dyma’r ergyd diweddaraf i’r gwleidydd asgell-dde, wrth i’w phlaid wynebu problemau ar ôl iddi golli yn y ras am yr arlywyddiaeth y llynedd.

Nid yw Marine Le Pen wedi gwneud sylwadau am y mater yn gyhoeddus eto.