Mae Donald Trump yn dweud fod gwleidyddion yn “ofni” lobi gynnau’r Unol Daleithiau, ac wedi galw am ddiwygio’r drefn.

Fe wnaeth ei sylwadau yn ystod cyfarfod yn y Tŷ Gwyn, lle wnaeth yr Arlywydd feirniadu ei blaid ei hun am y ffordd maen nhw wedi ymdrin â’r mater.

Mae Donald Trump eisoes wedi cyfleu awydd i lymhau gwiriadau cefndir ar bobol sydd eisiau prynu arfau, ac i wahardd pobol dan 21 rhag prynu rhai arfau.

Ond, er bod y fath gamau yn boblogaidd ymhlith cyhoedd America, mae grwpiau gan gynnwys y Gweriniaethwyr a’r Gymdeithas Reifflau Cenedlaethol (NRA) wedi’u rhwystro hyd yma.

Yn ogystal â hynny, mae’r Democratiaid yn poeni na fydd yr Arlywydd mewn gwirionedd yn bwrw ati i gyflwyno diwygiadau, ac yn credu y bydd ef ei hun yn ildio i bwysau carfannau ceidwadol.

Cafodd cyfarfod y Tŷ Gwyn ei gynnal yn sgil ymosodiad ar ysgol yn Florida, lle cafodd 17 o bobol eu saethu’n farw.