Mae cynrychiolwyr miloedd o Iddewon yn Ethiopia yn bygwth ymprydio os y bydd Israel yn dileu’r cymorthdaliau sy’n talu am iddyn nhw ymweld â’u teuluoedd yn y wlad honno.

Mae cannoedd o bobol wedi ymgynnull mewn synagog ym mhrifddinas Ethiopia, Addis Ababa, er mwyn mynegi eu pryder ynglyn â phenderfyniad cyllidebol gan Israel.

Mae’r rhan fwya’ o’r wyth mil o Iddewon Ethiopia ag aelodau o’u teuluoedd yn byw yn Israel – ac mae rhai ohonyn nhw’n honni nad ydyn nhw wedi gweld eu perthnasau ers deng mlynedd.

Ac maen nhw’n mynnu fod llywodraeth Israel wedi addo yn 2015 i symud gweddill yr Iddewon o Ethiopia i Israel.

Dyw hi ddim yn gyfreithlon i bobol Ethiopia gynnal protestiadau ar hyn o bryd, gan fod y wlad mewn stad o argyfwng.