Mae chwech swyddog yr heddlu wedi’u lladd, ac o leiaf 30 o bobol wedi’u herwgipio, yn sgil cyfres o ymosodiadau yn ne Afghanistan neithiwr.

Yn ôl pennaeth yr heddlu yn ardal Kandahar, fe wnaeth un grŵp o wrthryfelwyr ymosod ar ganolfan yr heddlu, gan heddlu, gan ladd chwech heddwas ac anafu pump arall.

Ar yr un pryd, fe wnaeth grŵp arall a oedd yn gwisgo lifrai’r fyddin, stopio bws a herwgipio 30 o bobol – roedd 19 ohonyn nhw’n aelodau o’r heddlu.

Fe ddigwyddodd y ddau ymosodiad ar y ffin rhwng ardaloedd Kandahar ac Uruzgan, a hynny dros nos neithiwr.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau hyd yma, ond mae’r awdurdodau’n rhoi’r bai ar y Taliban.