Mae pennaeth yr ochr ddyngarol o’r Cenhedloedd Unedig, Mark Lowcock, wedi dweud bod y sefyllfa yn yr Yemen yn “drychinebus” – gyda 22.2 miliwn o bobol angen cymorth.

Mae Ismail Ould Cheikh Ahmed, cennad arbennig y sefydliad yn y wlad, hefyd wedi beirniadu llywodraeth Yemen – sy’n cael ei chefnogi gan Sawdi Arabia – a’r gwrthryfelwyr Shïa o geisio parhau gyda’r rhyfel ar ôl iddyn nhw fethu ag arwyddo cytundeb heddwch.

Mae dau o swyddogion y Cenhedloedd Unedig wedi cyflwyno darlun du o’r wlad wrth i gyflwr y wlad yn gyffredinol waethygu ar ôl tair blynedd o ryfel, gyda phobol yn newynu ac economi’r wlad yn dioddef.

Mae Mark Lowcock wedi rhybuddio Cyngor y Cenhedloedd Unedig bod newyn yn “fygythiad go iawn” yn y wlad, tra bo Ismail Ould Cheikh Ahmed wedyn yn galw am drafodaethau newydd i roi terfyn ar y rhyfel.