Mae’r ymchwilio yn parhau i honiadau mai’r maffia yn yr Eidal oedd yn gyfrifol am farwolaeth ddiweddar newyddiadurwr o Slofacia.

Fe gafodd Jan Kuciak, 27, ei ganfod ddydd Sul (Chwefror 25) wedi ei saethu’n farw ynghyd â’i gariad.

Mae’n debyg yr oedd y newyddiadurwr wedi bod yn dilyn stori am weithredoedd y maffia Eidalaidd yn nwyrain Slofacia.

Mae yna honiadau eu bod yn twyllo’r sustem cymorthdaliadau Ewropeaidd yno.

Yn ôl awdurdodau, dyma’r tro cyntaf i newyddiadurwr gael ei ladd yn y wlad, ac maen nhw’n cynnig gwobr £879,000 i unrhyw un gall eu cynorthwyo i ddal y rhai sy’n gyfrifol.