Mae cadoediad dyddiol a gafodd ei orchymyn gan arlywydd Rwsia, bellach mewn grym mewn rhan o brifddinas Syria, Damascus.

“Seibiau dyngarol” yw’r enw sydd wedi’i roi gan Vladimir Putin am y drefn hon, a’r nod yw galluogi dinasyddion Dwyrain Ghouta i adael yr ardal.

Ond, mae’r cynllun wedi’i wawdio gan bobol leol, a hyd yma does dim arwydd bod camau wedi eu cymryd i helpu’r dinasyddion i ffoi.

Er hynny mae awdurdodau yn cydnabod bod llai o drais wedi ei gofnodi ddydd Mawrth (Chwefror 27) hyd yn hyn.