Mae plaid Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi pleidleisio o blaid dêl i ffurfio llywodraeth glymblaid gyda phlaid chwith o’r canol y Democratiaid Cymdeithasol.

Mae cynadleddwyr yr Undeb Democrataidd Cristnogol yn Berlin wedi pleidleisio’n unfrydol tros y cytundeb, er bod rhai aelodau mwy ceidwadol wedi ei feirniadu.

Ers etholiad mis Medi diwethaf, mae Angela Merkel wedi gorfod cynnal trafodaethau cymhleth gyda phleidiau llai.

Cyn bwrw ymlaen gyda’r cydweithio hwn, fe fydd angen i aelodau’r Democratiaid Cymdeithasol hefyd i’w groesawu. Fe fydd canlyniad eu balot nhw yn cael ei gyhoeddi ar Fawrth 4.