Mae rhestr o enwau 105 o ferched sy’n dal ar goll ar ôl cael eu cipio gan Boko Haram yn Nigeria wedi cael ei chyhoeddi gan eu rhieni.

Aeth y merched ar goll yn dilyn ymosodiad ar dref yng ngogledd y wlad wythnos yn ôl.

Mae lle i gredu bod eithafwyr Islamaidd wedi bod yn gofyn am fanylion y merched cyn iddyn nhw fynd ar goll o dref Dapchi yn nhalaith Yobe.

Dyma’r achos diweddaraf o gipio merched gan yr eithafwyr.

Cafodd 276 o ferched eu cipio o ysgol yn Chibok yn 2014, ac fe gawson nhw eu gorfodi i briodi’r rhai oedd wedi eu cipio.