Mae dyn yn cael ei holi ar amheuaeth o lofruddio dynes o’r Ffilipinas ar ôl i’w chorff gael ei ddarganfod mewn oergell yn Kuwait.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd, heblaw ei fod e wedi cael ei arestio yn Libanus ddydd Gwener.

Mae lle i gredu bod gwraig y dyn yn byw yn Syria, ac mae hithau hefyd yn cael ei hamau o lofruddio Joanna Demafelis.