Mae nifer o gwmnïau wedi dod â’u perthynas â Chymdeithas Reifflau Genedlaethol yr Unol Daleithiau i ben yn dilyn y gyflafan ddiweddaraf mewn ysgol yn Fflorida.
Maen nhw’n galw am reolau llymach ar feddu ar ddryllau ar ôl i ddyn saethu 17 o bobol yn farw yr wythnos ddiwethaf.
Roedd deiseb wedi’i sefydlu ar y we, yn targedu cwmnïau oedd yn cynnig gostyngiad ar ddryllau i aelodau’r Gymdeithas.
Roedd #BoycottNRA yn trendio ar Twitter.
Cwmnïau
Cyhoeddodd y cwmni yswiriant MetLife ddydd Gwener eu bod nhw’n dod â’u cysylltiad â’r Gymdeithas Reifflau Genedlaethol i ben.
Gwnaeth Hertz a Symantec yr un cyhoeddiad yn ddiweddarach.
Rhoddodd y cwmni yswiriant Chubb wybod dri mis yn ôl y bydden nhw’n dod â’u cysylltiad i ben hefyd, ac mae Enterprise Holdings eisoes wedi gwneud hynny.
Mae Banc Cenedlaethol Cyntaf Omaha wedi dweud na fyddan nhw’n adnewyddu cerdyn credyd â’r Gymdeithas.
Ymhlith y cwmnïau eraill sydd wedi tynnu’n ôl o gytundebau mae cwmni gwestai Wyndham a Best Western.