Fe fydd rheolwr tîm pêl-droed Man City, Pep Guardiola yn cael ei gosbi am barhau i wisgo bathodyn yn cefnogi gwleidyddion sydd wedi’u carcharu yng Nghatalwnia tros y ffrae annibyniaeth.
Mae’r Catalanwr wedi cael sawl rhybudd yn ystod y tymor gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr am wisgo’r rhuban melyn yn ystod gemau a chynadleddau i’r wasg.
Yn ôl rheolau’r Gymdeithas Bêl-droed, does gan reolwyr mo’r hawl i wisgo nac arddangos symbolau gwleidyddol ar eu dillad.
Datganiad
Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr mewn datganiad: “Mae Pep Guardiola wedi cael ei gyhuddo o wisgo neges wleidyddol, sef rhuban melyn, yn groes i reolau dillad a hysbysebu’r Gymdeithas.”
Fe fydd ganddo fe tan 6 o’r gloch nos Lun, Mawrth 5 i ymateb i’r cyhuddiad.
Er bod y gosb yn ymwneud yn benodol â gwisgo’r bathodyn ar ei ddillad yn ystod gemau, mae lle i gredu y bydd gan Pep Guardiola yr hawl i wisgo’r bathodyn mewn cynadleddau i’r wasg.
Cefndir
Mae Pep Guardiola yn gwisgo rhuban melyn ers rhai misoedd i ddangos ei gefnogaeth i arweinwyr gwleidyddol sydd wedi’u carcharu yng Nghatalwnia.
Yn ôl Llywodraeth Sbaen, roedd eu hymdrechion i sicrhau annibyniaeth ym mis Hydref yn anghyfreithlon yn ôl Cyfansoddiad Sbaen.
Dywedodd Pep Guardiola y byddai’n parhau i wisgo’r symbol, ac nad oedd yn gofidio am gael ei gosbi – ac y byddai’r gosb yn llai na chosb y rhai sydd yn y carchar.
Yn ôl adroddiadau yn Sbaen, roedd Pep Guardiola yn gwisgo’r bathodyn ar awyren breifat pan gafodd ei stopio cyn teithio wrth i’r heddlu chwilio am y cyn-arweinydd Carles Puigdemont yr wythnos ddiwethaf.
Mae Pep Guardiola wedi cadarnhau’r adroddiadau.