Mae heddiw’n Ddiwrnod Mamiaith Rhyngwladol, wrth i UNESCO geisio hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol ar draws y byd.

Caiff y diwrnod ei nodi bob Chwefror 21 ers bron i 20 mlynedd, ac mae UNESCO yn gwahodd gwledydd i ddathlu mewn cynifer o ieithoedd â phosib ac yn ategu eu neges fod amlieithrwydd yn hanfodol i ddatblygiad yr unigolyn.

Mae hybu addysg ddwyieithog – neu amlieithog – yn un arall o’i amcanion wrth i fwy o ieithoedd wynebu’r perygl o gael eu colli.

Yn ôl UNESCO, mae un o ieithoedd y byd yn diflannu bob pythefnos, sydd hefyd yn dileu diwylliannau.

Eleni, mae UNESCO yn dathlu 70 mlynedd ers y Datganiad Hawliau Dynol Byd-eang, sy’n mynnu na ddylid gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un ar sail yr iaith mae’n ei siarad. Mae’r datganiad wedi’i gyfieithu i fwy na 500 o ieithoedd y byd.

Digwyddiadau

I ddathlu’r diwrnod, mae UNESCO wedi trefnu dadl yn ei bencadlys ym Mharis ar y thema ‘Ein hieithoedd, ein hasedau’. Mae wedi’i threfnu ar y cyd â’r Organisation Internationale de la Francophonie (Sefydliad Rhyngwladol Gwledydd lle siaredir Ffrangeg).

Mae UNESCO yn annog pobol i ddathlu’r diwrnod drwy annog plant i siarad eu mamiaith drwy gyflwyno eu teuluoedd a’u diwylliant yn yr iaith honno, darllen cerdd neu stori neu canu cân yn eu mamiaith.

Wrth gyfathrebu â’i gilydd, mae myfyrwyr wedi’u hannog i drafod â’i gilydd pa ieithoedd maen nhw’n eu siarad ar ffurf holiadur, a chyhoeddi’r canlyniadau ar y we.

Maen nhw hefyd yn cael eu hannog i drefnu digwyddiadau diwylliannol lle mae’r iaith yn rhan ganolog ohonyn nhw.