Mae plant a menywod ymhlith bron i 130 o bobol sydd wedi’u lladd yn dilyn cyrchoedd awyr gan y llywodraeth tros ddinas Damascus.

Mae rhannau o’r ddinas yn nwylo’r gwrthryfelwyr ac mae’r llywodraeth wedi bod yn ymosod ar yr ardaloedd hynny tros gyfnod o ddeuddydd – yr ymosodiadau mwyaf ffyrnig ers tair blynedd.

Cafodd wyth o bobol eu lladd gan y gwrthryfelwyr wrth iddyn nhw daro’n ôl, wrth ymateb i filwyr y llywodraeth yn mynd i mewn i ranbarth Gwrdaidd Afrin, lle mae lluoedd Twrci’n brwydro yn erbyn y Cwrdiaid.

Yn ôl ffigurau grwpiau hawliau dynol, cafodd 20 o blant a 15 o fenywod eu lladd yn nwyrain Ghouta – yr ymosodiad gwaethaf ers 2015 yn yr ardal honno. Mae 98 o bobol wedi’u lladd i gyd yno, ac mae disgwyl bod rhagor o gyrff o dan rwbel.

Ymateb dyngarol

Mae UNICEF wedi beirniadu’r lladd, gan ofyn a oes yna gyfiawnhad tros ladd pobol ddiniwed.

Dywedodd Pwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch na “all hyn ddim parhau” ac na ellir “gadael i hanes ailadrodd ei hun”.