Fydd y Deyrnas Unedig ddim yn cael gwared ar reoliadau’r Undeb Ewropeaidd mewn cyfres o gynlluniau “Mad Max-aidd” yn dilyn Brexit, meddai’r Ysgrifennydd Brexit.

dFe fydd David Davies yn annerch cynulleidfa o arweinwyr busnes yn Fienna heddiw, lle bydd yn pwysleisio ymrwymiad y Deyrnas Unedig i “gydweithio’n glos a theg” gyda’r Undeb Ewropeaidd  ar ôl gadael.

Fe fydd yn rhaid iddo gerdded y llwybr tynn rhwng tawelu ofnau busnesau Ewropeaidd a pheidio â chythruddo rhai o aelodau ei blaid ei hun sydd eisiau torri’r rhan fwya’ o linynnau ffurfiol gyda’r Undeb.

‘Dim ras at y gwaelod’

Fe fydd David Davis hefyd yn dadlau bod angen cadw safonau uchel o ran rheoliadau er mwyn sicrhau bod masnach rhwng y Deyrnas Unedig ac Ewrop yn parhau “mor gadarn â phosib”.

Mae gweinidogion wedi rhybuddio y bydd yn rhaid i’r Deyrnas Unedig fabwysiadu “model economaidd” newydd pe baen nhw’n methu â chael cytundeb boddhaol gyda’r Undeb.

Ond fe fydd David Davis heddiw yn mynnu nad yw Llywodraeth Prydain am fod yn rhan o’r “ras at y gwaelod”.

Ofnau’n seiliedig “ar ddim”

“Dw i’n gwybod am ryw reswm neu’i gilydd bod yna rai pobol sydd wedi ceisio codi cwestiynau ai’r  rhain yw ein hamcanion ni,” meddai David Davis.

“Maen nhw’n poeni  y bydd Brexit yn arwain at ras Eingl-Sacsonaidd at y gwaelod, ac y bydd Prydain yn troi’n i fyd ‘Mad Max-aidd’…

“Mae’r ofnau… wedi’u seilio ar ddim – ddim ar hanes, na bwriad na diddordeb.”